Cyswllt Meysydd Glo Cymru
Rydym eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc o gyn ardaloedd y meysydd glo i wneud enw iddynt eu hunain yn y sector diwydiannau creadigol a diwylliannau sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru.
Mae tranc y diwydiant glo yng Nghymru wedi gadael teuluoedd a chymunedau cyfan mewn trafferthion. Mae rhai ardaloedd yn dal i fod ymysg y rhai gyda’r diweithdra uchaf a’r incwm isaf ym Mhrydain. Yn annhebyg i weddill diwydiant glo Prydain, ni chafwyd cyfleoedd gwaith newydd yng Nghymru felly mae economïau lleol wedi colli eu holl adnoddau gan arwain at chwalfa cymunedau cyfan wrth i unigolion fynd ymhellach i chwilio am waith.
Mae Bond Meysydd Glo Cymru yn gynllun newydd gan Citylife ac fe’i cefnogir gan Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo.
Gwybodaeth bellach: