Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo

 
Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn ymroddedig i wella ansawdd bywyd i bobl yng nghymunedau meysydd glo Prydain. Ein cennad yw arwain y ffordd wrth adfywio meysydd glo ac adfer cymunedau iach, llewyrchus a chynaliadwy. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 1999.
 
Gweithiwn gyda phobl ar lefel leol er mwyn meithrin hyder a’u hannog i fynd â’u cymunedau ymlaen. Rydym eisiau rhoi rhywbeth i bobl anelu ato, gan siarad am y tymor hir a gwneud cymunedau meysydd glo yn gynaliadwy fel y medrant fod yn llewyrchus, hyfyw a chydlynol heb gefnogaeth.
 
Mae hyn i gyd yn galw am ymrwymiad ac rydym ni yn yr Ymddiriedolaeth yn sefyll tu cefn i’n cymunedau i’w helpu i gyflawni eu nod. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo wedi dosbarthu £7.6 miliwn mewn grantiau i dros 288 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol dros y pum mlynedd diwethaf. Rydym wedi helpu llawer o grwpiau i ddatblygu prosiectau llwyddiannus sy’n cyfrannu at adfywio cyn gymunedau’r meysydd glo.











Note: You have not got CSS activated on your browser.
To get the most out of your browser we recommend you turn it on or upgrade to a browser thats supports it.