Sut y bydd y Bond yn gweithio
Sut y bydd y Bond yn gweithio
Mae’r Bond Buddsoddiad Cymdeithasol hwn yn offeryn elusennol blaengar fydd, yn hytrach na thalu llog i fuddsoddwyr, yn defnyddio’r arian i sefydlu Cynllun Dyfarniadau newydd o grantiau i alluogi pobl ifanc i feithrin eu talentau creadigol.
Caiff y Cynllun Dyfarniadau ei ariannu drwy greu Bond Buddsoddiad Cymunedol - a elwir yn dechnegol yn ‘bond cwpon sero’. Nid yw’r Bond yn talu llog i fuddsoddwyr, ond yn hytrach yn defnyddio’r llog y mae’n ei ennill i ariannu’r Cynllun Dyfarniadau. Caiff Bond Meysydd Go Cymru ei gadw mewn ymddiriedolaeth gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality a’i gefnogi gan warant banc. Caiff buddsoddiadau deiliaid bond eu dychwelyd iddynt (h.y. ar par) ar ôl cyfnod o bum mlynedd.
Cefnogwch ni heddiw - mae Bond Meysydd Glo Cymru yn eich galluogi i fuddsoddi eich arian mewn prosiect lle medrwch ymrwymo gyda’ch buddsoddiad a gweld canlyniadau helpu pobl ifanc o ardal y Meysydd Glo.
Mae’r neges yn syml – rhowch i elusen a chael eich arian yn ôl bum mlynedd yn ddiweddarach.