Y Cynllun Dyfarniadau
Y Cynllun Dyfarniadau
Bydd y dyfarniadau ar gael i roi cyfle i bobl o ardaloedd y meysydd glo i ddilyn eu huchelgais, sydd allan o’u cyrraedd ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Caiff y dyfarniadau eu dosbarthu drwy Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn dilyn argymhellion gan Banel Dethol a barn arbenigol o’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Amcanion y Cynllun Dyfarniadau
- Dynodi pobl gyda’r diddordeb, uchelgais, potensial a brwdfrydedd angenrheidiol a fyddai’n cael budd o Ddyfarniad
- Rhoi Dyfarniadau fydd yn annog hyfforddiant a/neu gyfleoedd addysgol ar gyfer pobl o ardaloedd y cyn feysydd glo na fyddai’n medru cyrchu cyfleoedd o’r fath yn rhwydd
- Gwneud Dyfarniadau fydd yn dileu rhwystrau i hyfforddiant, cyflogaeth neu fenter gyda golwg ar ddatblygu talent greadigol yn arbennig mewn ffilm, cerddoriaeth, cyfryngau a seilwaith y diwydiant
- Datblygu a chadw eiddo deallusol neu werth ychwanegol economaidd o fewn wardiau blaenoriaeth Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
- Ehangu’r sylfaen sgiliau yn y diwydiannau Teledu, Ffilm a Cherddoriaeth o fewn ardaloedd blaenoriaeth yr Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo
- Dynodi a thrafod bylchau seilwaith yn y diwydiannau hynny
Enghreifftiau o Grantiau
- Helpu’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y sector creadigol drwy gyllid ar gyfer, er enghraifft, offerynnau cerdd, gofod ymarfer neu ddeunyddiau celf
- Pobl yn dymuno dilyn prentisiaethau ar gyfer offer, teithio neu ddillad arbenigol i’w galluogi maes o law i gyfrannu at isadeiledd Cymru
- Pobl yn dechrau ar addysg bellach neu addysg uwch a all fod angen help ariannol
- Person gyda ‘gweledigaeth’ sydd eisiau adfer ymdeimlad o gymuned drwy rwydwaith rithiol neu wirioneddol
- Unigolyn mentrus sy’n dymuno sefydlu eu busnes eu hunain ond eisiau cymorth gyda’r costau cychwynnol.